Dyfodol cefn gwlad Cymru -

Treftadaeth llawr gwlad a chartrefi fforddiadwy

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol - Ethol Cadeirydd ac Ysgrifenyddiaeth

 

Lansio adroddiad Adfer Ban a Chwm (  ABC  ) ar dai fforddiadwy a defnyddio adeiladau brodorol adfeiliedig i helpu i ddiwallu'r angen hwn mewn cymunedau gwledig.

 

 

Yn bresennol:

Cadeirydd:                              Llyr Huws Gruffydd AC (PC)

Yr Ysgrifenyddiaeth:              Cat Griffith-Williams - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW)

Yn bresennol

Aelodau’r Cynulliad

a'u Staff Cymorth:                 Russell George  - (Ceid),

                                                William Powell – (DRh)

                                                Mark Isherwood  - (Ceid)

Alun Ffred Jones  - (PC)

Gareth Llewellyn - Swyddfa Leanne Wood AC (PC)

Siaradwyr gwadd:

 

Cyflwynodd Joanie Speers , sylfaenydd ABC, waith y prosiect a’i gefndir a'r hyn y mae ABC yn gobeithio'i gyflawni drwy gyfrwng y lansiad hwn.

 

Cyflwynodd  Nico Jenkins , Swyddog Datblygu'r rhaglen, brif gasgliadau'r prosiect.  

 

Soniodd David James , Hwylusydd Tai Gwledig Sir Fynwy, am ei brofiad o’r angen i ddarparu tai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig.

 

 

 Hefyd yn bresennol:              Moira Lucas - Cyngor Abertawe

Karen Anthony - CLA Cymru

Edward Holdaway - Cynghrair Parciau Cenedlaethol Cymru

Cat Griffiths Williams -Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 

Peter Ogden - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

Carys Matthews - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

Julian Preece - Cyngor Sir Powys

Stuart Davies - Cyngor Sir Powys

Joanie Speers - ABC

Roger Mears - ABC

Nico Jenkins - ABC

Anjuli Quartermaine - ABC

Helen Whitear - ABC

David James - ABC

Lee Cecil - Asiant Capital

Kate Biggs - Cyngor Sir Fynwy

Judith Leigh - SPAB (Cymru)

Richard Keen - AHF APT (Cymru)

Roisin Willmott - RTPI Cymru

Helen Fry - APCBB

Ryan Greaney - APCBB

Helen Roderick - APCBB

Carys Howell - Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Y Cynghorydd Geraint G Hopkins - APCBB

Mark Major- Staff Cymorth Suzy Davies AC

Roger Belle - Pub is the Hub

 

 1         Agorodd Llyr Huws Gruffydd AC y cyfarfod gan ddiolch i bawb am ddod. Esboniodd fod yn rhaid ethol Cadeirydd a'r Ysgrifenyddiaeth yn unol â gofynion Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gan mai ef oedd y Cadeirydd presennol, trosglwyddodd Llyr yr awenau i Peter Ogden a aeth rhagddo i esbonio'r drefn ar gyfer gweithredu Grŵp Trawsbleidiol. Gofynnodd am gynigion o'r llawr ar gyfer swydd y Cadeirydd a, chan na chynigiwyd neb, gofynnodd i bawb gytuno i ailethol Llyr Huws Gruffydd AC.  Pleidleisiodd Alun Ffred Jones AC o blaid. Cafodd Llyr ei ailethol yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Gwledig.

 

2.         Dywedodd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW)  eu yn barod i ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol am flwyddyn arall, a gofynnodd Llyr am bleidlais i gadarnhau hynny. Pleidleisiodd pawb a oedd yn bresennol, ac Alun Ffred Jones AC o blaid. Bydd YDCW yn parhau i ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol i'r Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Gwledig.

 

3          Agorodd Llyr y prif gyfarfod a chroesawodd ABC a'i sylfaenydd  Joanie Speers  at y grŵp.

 

 3.1       Diolchodd Joanie i Llyr, a'r Grŵp trawsbleidiol, am wahodd ABC i drafod eu hadroddiad ac i lansio'r adroddiad ar dai fforddiadwy ac adeiladau brodorol.

 

 Tetil y sesiwn oedd 'Dyfodol cefn gwlad Cymru: treftadaeth lawr gwlad a chartrefi fforddiadwy' a dyma pam: mae dau beth y gellir eu dweud yn gwbl bendant:

3.2.1        Mae llawer o adeiladau brodorol adfeiliedig yng nghefn gwlad Cymru

3.2.2        Mae angen tai fforddiadwy yng nghefn gwlad Cymru. 

Sefydlwyd Adfer Ban a Chwm yn 2008 fel ymddiriedolaeth cadwraeth adeiladau i fynd i'r afael â'r ddau fater ar y cyd, drwy droi ffermdai gwag yn dai fforddiadwy i bobl leol.  Y syniad oedd canolbwyntio ar adeiladau heb eu rhestru, y rhai sy'n cael ei diystyru ac nad oes ganddynt ddim, neu fawr ddim, diogelwch statudol.   Mae'r adeiladau hyn yn llawn hanes, treftadaeth a straeon ac, yn llythrennol, yn llawn o ddeunyddiau lleol. Maent yn ymgorffori sgiliau adeiladu traddodiadol ac, yn hanfodol, egni pobl leol.  Pa ffordd well o adfer yr adeiladau hyn na thrwy eu defnyddio i gartrefu'r rhai yn y gymuned leol nad ydynt yn gallu prynu na rhentu ar y farchnad agored - helpu i adfywio cymunedau sy'n edwino, a helpu i gadw cefn gwlad yn fyw at atal diboblogi gwledig. Mae'r hyn a oedd yn ymddangos yn dasg hawdd yn 2008 wedi bod yn gryn her yn y pen draw.  Rhoddodd ABC bedair blynedd iddynt eu hunain i gwblhau'r dasg, ond roedd pethau'n wahanol iawn mewn gwirionedd.  

 

Er mwyn cael y maen i'r wal, siaradodd ABC gyda nifer fawr o sefydliadau, unigolion ac asiantaethau. Aethant ati i drefnu cyfarfodydd cyhoeddus, i gynnal seminarau, i roi cyflwyniadau, ac i ysgogi arolwg o anghenion tai a gwnaethant gais am arian gan nifer o ffynonellau.   Ac er y bu ond y dim iddynt lwyddo, nid ydynt wedi cael y maen i'r wal eto.  

 

Gyda chymorth Cronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, aeth ABC ati yng ngwanwyn 2014 i holi pobl Sir Gaerfyrddin a Phowys o fewn ffiniau'r Parc Cenedlaethol i gael gwybod eu barn am dai fforddiadwy a'r syniad o ddiwallu'r angen hwn drwy ddefnyddio adeiladau segur.  Roeddent am glywed eu barn a’u canfyddiadau.  Roedd ABC yn awyddus i glywed eu pryderon a’u rhagfarnau, a'r rhwystrau posibl. Y bwriad wedyn oedd gweithredu ar sail hynny.   Unwaith eto, nid oedd pethau mor syml â hynny. Mae ABC wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn gwrando, yn dysgu, yn esbonio, yn cyflwyno, yn cyfweld ac yn cynnal arolwg i ddarganfod beth y mae pobl yn ei feddwl go iawn, beth sy'n eu poeni, beth sy'n bwysig iddynt, a ydynt yn creu y dylai ABC ddal ati ac, os felly, sut. 

 

Ar ôl cyflwyniad hwn, eglurodd Nico Jenkins y canfyddiadau:, beth yw'r problemau neu beth y mae pobl yn ei feddwl yw'r problemau (a dyma sy'n allweddol bwysig), a beth allai symud pethau ymlaen?  Ni allwn wneud hyn ar ein pennau'n hunain. Tynnodd Joanie sylw pawb at gyfres o ddelweddau'n dangos amrywiaeth o adeiladau brodorol adfeiliedig yng nghefn gwlad Cymru.  Mewn ardal sy'n ymestyn 5 milltir yn unig o amgylch Llanddeusant yn Sir Gaerfyrddin, mae 35 o adeiladau o'r fath.  Mae rhai wedi dadfeilio gormod ond gellir adfer eraill yn hawdd.   Gofynnodd i bawb yn y cyfarfod, a'r Aelodau, ystyried eu  hardaloedd lleol, ac roedd yn hyderus y byddent yn cael hyd nifer debyg, os nad mwy.

 

Felly pam poeni am yr adeiladau hyn?

Mae adeiladau cynhenid ​​nid yn unig yn rhan werthfawr o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru, ac yn cyfrannu'n sylweddol at gymeriad y dirwedd hanesyddol, ond mae pob adeilad sy'n goroesi yn amlygiad ffisegol o hanes economaidd a chymdeithasol y gymuned y mae'n perthyn iddo. Dyma felly ein 'treftadaeth llawr gwlad'. Mae adeiladau brodorol adfeiliedig yn adnodd nad yw'n cael ei ddefnyddio'n ddigonol.   Nid yn unig y mae deunyddiau a dulliau adeiladu traddodiadol yn fwy cydnaws ag estheteg ardal a gaiff ei chydnabod am ei harddwch naturiol, ond maent yn fwy amgylcheddol sensitif na defnyddiau a thechnegau adeiladu confensiynol.  Ac yn groes i'r hyn y mae pobl yn ei feddwl, mae adeiladau traddodiadol yn perfformio'n llawer gwell o ran colli gwres, nag a dybiwyd yn flaenorol (nodir hyn yn yr Adroddiad).

 

Pam poeni am dai fforddiadwy?

Mae angen tai fforddiadwy ar nifer gynyddol o bobl; mae'n rhaid i nifer o bobl adael y cymunedau lle cawsant eu magu gan na allant fforddio prynu neu rentu.  Mae llawer o bobl yn dymuno byw mewn amgylchedd gwledig a chyfrannu at y cymunedau yno.  Nid yw'r angen i ddarparu cartrefi fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig yn cael difon o sylw.  

 

Yn dilyn y cyflwyniad hwn, soniodd David James am yr angen dirfawr hwn.

Felly, beth y mae ABC am ei gyflawni heddiw?

Mae angen cymorth unigolion ac Aelodau Cynulliad ar ABC ac maent yn gofyn am  dri pheth, yn syml iawn:

3.3.1        Help i gyplysu'r ddwy broblem ar agenda'r Cynulliad a sicrhau bod y Mesur Treftadaeth a'r Mesur Cynllunio yn gydnaws â'r dull hwn o weithredu

3.3.2        Help i sicrhau bod argymhellion ABC, er mor uchelgeisiol ydynt, yn cael eu hystyried o ddifrif

3.3.3        Helpu ABC i ddangos y gall hyn weithio, ac mae hynny'n golygu cymeradwyaeth, ymrwymiad ac, wrth gwrs, cymorth ariannol.

Cyflwynodd Joanie Swyddog Datblygu rhaglen ABC, Nico Jenkins, sydd wedi ymgymryd â'r rhan fwyaf o'r gwaith y sonnir amdano yn yr adroddiad. Cyflwynodd y prif gasgliadau a'r argymhellion.

 

 4.        Rhoddodd Nico Jenkins  ei chyflwyniad.

 

·         Diolchodd Nico i bawb am ddod i'r cyfarfod. Dywedodd mai nod yr adroddiad hwn oedd nodi canfyddiadau pobl - eu barn, eu pryderon, eu rhagfarnau, eu profiadau a'r rhwystrau ym maes tai fforddiadwy, ynghyd â gwerth adeiladau brodorol, gan ystyried a ellid cyplysu'r ddwy broblem i helpu i ddiwallu'r angen i ddarparu tai fforddiadwy yng nghefn gwlad Cymru.  Ystyriodd y broblem o safbwynt: ffermwyr lleol, trigolion lleol PCBB, cynghorau plwyf, cynghorau cymuned, awdurdodau lleol, cymdeithasau ac asiantaethau lleol, cyrff yn y sector gwirfoddol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, cymdeithasau tai ac unrhyw gyrff eraill a oedd â diddordeb. Aeth ati i gaslgu'r wybodaeth drwy gynnal cyfweliadau lled strwythuredig yn gyntaf a hynny gyda gweithwyr proffesiynol naill ai ym maes tai neu adeiladu traddodiadol yn bennaf, a hefyd gyda ffermwyr y Parc Cenedlaetholl. Yn ogystal â hyn, anfonodd holiaduron at ffermwyr, perchnogion tir neu unrhyw un a oedd yn byw yn y Parc Cenedlaethol ym Mhowys neu Sir Gaerfyrddin.  Cafodd 34 o unigolion o'r gwahanol grwpiau o randdeiliaid eu cyfweld. Recordiwyd y cyfweliadau â Dictaphone er mwyn eu trawsgrifio a'u dadansoddi i weld pa themâu oedd yn codi. Cynhaliwyd arolwg gyda'r rhai a oedd yn byw yn y Parc Cenedlaethol yn Sir Gaerfyrddin a Phowys. Cynhaliwyd arolwg wyneb yn wyneb hefyd â thrigolion yr ardal mewn pedair sioe amaethyddol dros yr haf: Sioe Frenhinol Cymru, Sioe Amaethyddol Aberhonddu, sioe Llandeilo a sioe Pontsenni. Paratowyd fersiwn ar-lein o'r arolwg hefyd a'i ddosbarthu drwy'r e-bost i nifer fawr o grwpiau a chymdeithasau lleol, a grwpiau oedd â diddordeb, cyfryngau cymdeithasol a gwefan ABC. Casglwyd cyfanswm o 152 o ymatebion.

 

4.2   Aeth Nico rhagddi i gyflwyno rhai o'r prif gasgliadau

 

 4.2.1    Adeiladau brodorol

·         Roedd 70% o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg yn gwybod am adeiladau brodorol yn eu cymuned ac roedd 91% o'r ymatebwyr yn credu bod gwerth i adeiladau brodorol. Y gwerth mwyaf cyffredin a roddwyd ar adeiladau brodorol oedd gwerth hanesyddol. 

·         Roedd y cwestiwn cyntaf a ofynnwyd yn y cyfweliad yn ymwneud â'r gwerth roedd pobl yn ei roi ar adeiladau brodorol adfeiliedig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac fel y byddech yn dychmygu, roedd yr holl ymatebwyr yn ystyried bod gwerth i'r adeiladau hyn. Roedd hyn yn gysylltiedig â dealltwriaeth o'n hanes a'n  treftadaeth o fewn y dirwedd.

·          '... maen nhw'n rhan o'n traddodiad a'n hanes a'n treftadaeth bensaernïol a dyma sy'n creu'r dirwedd ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig fod pethau fel hyn yn cael eu diogelu, oherwydd unwaith y byddant wedi mynd, dyna ni, does dim modd codi rhai eraill yn eu lle. .. '

 

 4.2.2    Tai Fforddiadwy

·         Roedd 80% o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg yn credu bod angen darparu tai fforddiadwy yn eu cymuned ac roedd 62% o'r ymatebwyr hyn yn dweud eu bod nhw, neu rywun roeddent yn ei adnabod, yn methu prynu / rhentu tai yn lleol oherwydd eu bod yn rhy ddrud ac, o ganlyniad, roedd y mwyafrif naill ai'n gorfod rhentu os nad oeddent yn gallu fforddio prynu tŷ, neu symud o'r ardal. 

·         Yn sicr, mae angen tai fforddiadwy yn y Parc Cenedlaethol. Yng Nghynllun Datblygu Lleol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog nodir bod angen tybiedig drwy ardal y Parc Cenedlaethol.

·         Mae gwahanol fathau o dai fforddiadwy i'w cael. Daeth hyn i'r amlwg wrth gyfweld â phobl leol a gofyn:  'Beth mae'r term' tai fforddiadwy 'yn ei olygu i chi?' roedd yr amrywiaeth enfawr o ymatebion i'r cwestiwn hwn yn dangos y problemau'n ymwneud â chanfyddiadau a chredoau am y diffiniad o dai fforddiadwy.

·         Y themâu mwyaf cyffredin a ddaeth i'r amlwg yn yr arolwg oedd: dylid darparu tai fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc, pobl leol a'r rhai ar incwm isel - cyfartalog.

·         Rhai o'r themâu a ddaeth i'r amlwg o'r cyfweliadau oedd: y camsyniadau tybiedig a'r stigma sy'n aml ynghlwm wrth dai fforddiadwy, effaith mewnfudo ar gymunedau gwledig a'r math o bobl y mae angen tai fforddiadwy arnynt.

·          Gofynnwyd beth oedd y prif rwystrau i ddarparu tai fforddiadwy o fewn y Parc Cenedlaethol. Roedd mwyafrif y rhai a ymatebodd i'r arolwg (49%) yn credu mai cynllunio oedd y prif rwystr i ddarparu tai fforddiadwy yn y Parc Cenedlaethol.

 

 4.2.3    Y rhwystrau canfyddedig a ddaeth i'r amlwg o'r cyfweliadau oedd: 

·         cynllunio

·         gwerth tir

·         cyllid a hyfywedd

·         safleoedd addas

·         gwrthwynebiad lleol

·         diffyg gwasanaethau mewn cymunedau gwledig

 

 4.2.4    Defnyddio adeiladau brodorol ​​i ddarparu tai fforddiadwy

·         Dywedodd 86% o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg y byddent yn cefnogi menter sy'n defnyddio adeiladau brodorol adfeiliedig er mwyn darparu tai fforddiadwy ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

·         Nododd y mwyafrif (66%) y dylid defnyddio adeiladau brodorol adfeiliedig drwy eu hadfer fel tai fforddiadwy.

·         Nodwyd bod nifer o wahanol fanteision ac anfanteision ynghlwm wrth ddefnyddio adeiladau brodorol adfeiliedig i ddarparu tai fforddiadwy:

o   Roedd y manteision yn cynnwys: datrys dwy broblem yr un pryd - defnyddio adnoddau sydd gennym eisoes, polisïau cynllunio APCBB, cyfleoedd gwaith a hyfforddiant.

o   Roedd yr anfanteision yn cynnwys: cost adnewyddu a chynnal a chadw, cyrraedd safonau effeithlonrwydd gofodol ac ynni, cynllunio a mynediad cyfyngedig i amwynderau a gwasanaethau.

 Yn yr adroddiad, mae'r rhain yn cychwyn y drafodaeth am rwystrau, manteision, ac anfanteision.  Ond mae lle i gael trafodaeth lawn am y rhain. Maent hefyd yn nodi cyfres o argymhellion eang ac uchelgeisiol braidd i Lywodraeth Cymru, cymdeithasau tai, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac awdurdodau eraill, ac i ABC.

 

Mae'r rhain yn cynnwys:

·          I'r Parc Cenedlaethol: gweithio gyda pherchnogion adeiladau brodorol adfeiliedig i weld sut y gellid eu hysgogi i ganiatáu i'r adeiladau hyn gael eu defnyddio ar gyfer tai fforddiadwy am byth.

·          I Lywodraeth Cymru: creu CGFf ar wahân ar gyfer tai fforddiadwy gwledig yn benodol er mwyn medru defnyddio mwy o Grant Tai Cymdeithasol i ddatblygu tai fforddiadwy yn ardaloedd gwledig Cymru.

·          I gymdeithasau tai: lobïo Llywodraeth Cymru er mwyn cael Grant Tai Cymdeithasol ychwanegol  i ddatblygu tai fforddiadwy yng nghefn gwlad.

·          Ac i bawb: gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â phroblemau tai fforddiadwy a sicrhau bod polisïau cynllunio realistig a strategaethau hirdymor ar waith i ddiogelu dyfodol adeiladau brodorol.

·         I ABC: syniadau ymchwil ychwanegol ac yna, ymysg pethau eraill, gweithio mewn partneriaeth â landlord cymdeithasol cofrestredig a allai gael cyllid gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (symiau gohiriedig) neu ffynonellau ariannu eraill.

 

Roedd Nico yn gobeithio ei bod wedi rhoi syniad da o gynnwys yr adroddiad.  Nid oedd digon o amser i roi darlun mwy cynhwysfawr, felly  gwahoddodd bawb i ofyn cwestiynau ar y diwedd a'u hannog i  gymryd copi o'r adroddiad wrth iddynt adael a chysylltu ag ABC ​​oes oeddent am wybod rhagor.

 

Yna gofynnodd i David James, Swyddog Galluogi Tai Gwledig Sir Fynwy, ddweud wrth y gynulleidfa beth y mae'r angen i ddarparu tai fforddiadwy yng nghefn gwlad Cymru yn ei olygu mewn gwirionedd ...

 

 5.         Rhoddod David James  ei gyflwyniad.

 

Diolchodd ABC am y gwahoddiad i siarad i gefnogi eu gwaith a'u hadroddiad, i bob AC a oedd yn bresennol ac a oedd wedi rhoi o'u hamser i ddod i'r cyfarfod ac i bawb arall a oedd yn bresennol.

 

Teimlai David ei bod yn briodol iddo ddod i siarad am yr angen i ddarparu tai fforddiadwy ar yr un diwrnod ag yr oedd rali Cartrefi i Brydain yn cael ei chynnal yn Llundain. Roedd cefnogwyr ymgyrch Cartrefi i Brydain yn credu bod gan bawb yr hawl i gael cartref fforddiadwy addas. Eglurodd eu bod yn ymgyrchu i bob plaid wleidyddol ddod â'r argyfwng tai i ben ymhen cenhedlaeth. Yng nghefn gwlad Cymru, am bob cartref na chaiff ei adeiladu neu ei ddefnyddio eto, bydd mwy o wasanaethau'n diflannu. Mae'r ffaith bod poblogaeth cefn gwlad Cymru yn heneiddio'n gynyddol yn broblem wirioneddol gan y bydd pobl yn cael eu hynysu fwyfwy os na allwn ddarparu digon o dai. 

 

 5.1       Yn 1971 roedd 13.8% o boblogaeth Cymru yn 65 oed neu'n hŷn, ond erbyn 2013 roedd y ganran wed codi i 19.5%. Dyna'r cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan ac mewn siroedd gwledig fel Gwynedd, Powys a Sir Fynwy mae 23% o'r boblogaeth dros 65 oed!

 

Pan fydd pobl ifanc yn symud o'u hardaloedd, mae'r rhwydwaith teuluol yn chwalu.  Os nad awn i'r afael â'r broblem, byddwn yn dod yn fwy dibynnol ar y wladwriaeth i ddarparu gofal, gan na fydd aelodau o'r teulu ar gael i wneud hynny am ddim. Anogodd pawb a oedd yn bresennol, ac Aelodau'r Cynulliad, i ddangos cefnogaeth i'r Ymgyrch Cartrefi i Brydain.

 

Ychydig iawn o ardaloedd gwledig sydd lle nad oes angen darparu tai fforddiadwy. Hyd yn oed yn yr ardaloedd gwledig mwyaf anghysbell, sydd â phatrymau aneddiadau gwasgaredig, mae angen tai fforddiadwy, hyd yn oed os mai dim ond un neu ddau o gartrefi fyddai hynny. Gallai adeiladau brodorol adfeiliedig fod yn ffordd ddelfrydol o ddiwallu'r angen, a dylid ymchwilio ymhellach i'r posibilrwydd hwn. Gallai hyn fod yn gyfle delfrydol i roi cynigion ABC ar waith. Er enghraifft, yn Nyffryn Llanddewi Nant Hodni yn ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Sir Fynwy gallai ymwelydd â'r ardal feddwl mai ychydig iawn o bobl sy'n byw yno, ond mae David yn gwybod am nifer o deuluoedd y mae angen iddynt fyw yno oherwydd eu gwaith, ond ni allant fforddio gwneud hynny ac nid yw'r polisi cynllunio yn caniatáu iddynt wneud hynny. Mae'n gwybod am deuluoedd sydd â phlant ifanc sy'n byw mewn carafanau a chartrefi symudol, ac nid yw hynny'n dderbyniol yn 2015! Felly, rhaid i gynllunwyr wrando ar arbenigwyr tai a bod yn barod i weithio gyda phartneriaid er mwyn medru darparu tai fforddiadwy. Mae David wedi helpu i ddarparu dros 50 o unedau fforddiadwy yn y Parc Cenedlaethol, er nad oes  arbenigwr tai yn gweithio gyda'r awdurdod yn awr. Ddoe cynhaliodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyfarfod â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i drafod sut i ddyrannu symiau gohiriedig y maent wedi penderfynu eu cadw eu hunain, ond ni chafodd swyddogion tai'r awdurdod lleol eu cynnwys. Cyhoeddwyd Canllawiau Cynllunio Atodol drafft CYD LP1 yr Awdurdod yn ddiweddar i ymgynghori yn ei gylch. Byddai goblygiadau ymarferol y polisi hwn yn golygu y byddai angen swm ychwanegol o £120,000 am y fraint o gael caniatâd cynllunio i godi tai i'w gwerthu ar y farchnad agored. Roedd David yn sicr nad yw hyn yn ymarferol ac na fydd yn creu unrhyw dai fforddiadwy.

 

Tynnodd David sylw at un rhan benodol o adroddiad ABC, sef dyfyniad o gyfweliad a gynhaliwyd fel rhan o'r prosiect.

 

“The National Parks Authority is under no illusion that this policy will promote affordable housing development from such building to developers. If we don’t get a single affordable housing dwelling through this policy this wouldn’t mean the policy had failed. The success of the policy relates to the extent to which it prevents the creation of more market housing from redundant vernacular buildings, without contribution towards the affordable housing need in the area. If we enable open market conversion we are adding to the problem.”

 

Roedd yn teimlo bod hyn yn ddatganiad naïf iawn; mae'n rhaid i ni ddarparu tai ychwanegol ar y farchnad agored i roi hwb i'r farchnad dai. Yn Sir Fynwy ar y llaw arall mae polisi ar waith lle mae safleoedd wedi'u dyrannu i ddarparu 60% o dai fforddiadwy ac mae datblygwyr yn bwrw ymlaen â llawer o'r safleoedd hyn. Yn ddiweddar, aeth Dafydd i ddarlith gan John Punter, Athro  Dylunio Trefol ym Mhrifysgol Caerdydd . Er mwyn medru darparu tai fforddiadwy, meddai, mae'n allweddol gosod cap ar brisiau tir a dyma'n union y mae'r polisi hwn yn gobeithio'i gyflawni. Cyflwynodd rai ffeithiau syfrdanol o'r Papur Gwyn,Datganoli, Democratiaeth a Chyflawni - Diwygio Llywodraeth Leol: Grym i Bobl Leol.

 

5.2.1        Ni cheir unrhyw drefi â phoblogaeth sydd dros 25,000 yn y canolbarth, nac i’r gorllewin o Fae Colwyn yn y gogledd nac i’r gorllewin o Lanelli yn y de.

5.2.2         Yn ôl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddinas-ranbarthau a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ddinas-ranbarthau yng Nghymru, dim ond 33% o’n cyfoeth y mae dinasoedd yn ei gynhyrchu. Fodd bynnag, mae bron 69% o boblogaeth Cymru yn byw yn y dinas-ranbarthau a nodwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen

5.2.3        Felly, mae'r 31% o boblogaeth Cymru sy'n byw y tu allan i ranbarth y dinasoedd yn cynhyrchu 67% o'n cyfoeth.

5.2.4        Cymru Wledig yn sicr, yw pwerdy economi Cymru! Mae angen i bobl fyw yng nghefn gwlad Cymru i gynnal yr economi, i weithio yn y diwydiant ymwelwyr a'r diwydiant amaethyddol. Mae angen pobl hefyd i weithio mewn gwasanaethau gofal gan fod gan Gymru wledig boblogaeth fregus iawn, fel y soniais eisoes. 

5.2.5        Mae angen pobl i reoli'r dirwedd, mae'n dirwedd hardd, ac os nad yw'n cael ei reoli gan bobl, bydd yn dirywio'n fuan.

5.2.6         Ond mae cyflogau'n isel iawn yng nghefn gwlad ac mae  prisiau tai'n uchel iawn, felly os nad oes cyflenwad o dai fforddiadwy, bydd yr economi a'r dirwedd yn dioddef. Er enghraifft, er bod Sir Fynwy yn ymddangos yn awdurdod lleol cyfoethog gan fod ganddo'r incwm cyfartalog uchaf o holl awdurdodau lleol Cymru, yn 2013,  enillion wythnosol y rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y sir oedd yr isaf ond un yng Nghymru.

 

Er ei fod yn sôn am gynllunio cartrefi a'r economi, pwysleisiodd fod angen cofio mai pobl sy'n ganolog i hyn oll.  Mae tai'n effeithio ar iechyd, cyfoeth, lles, cyrhaeddiad addysgol a llawer mwy, felly po fwyaf o bwyslais rydym yn ei roi ar ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd da, po fwyaf yw'r effaith gadarnhaol a gaiff ar feysydd gwasanaeth eraill fel y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol. Soniodd David am ddwy astudiaeth achos, Broadstone a Llanarth, sef dwy ardal yn Sir Fynwy wledig. Yn Broadstone roedd gwrthwynebiad cryf i'r prosiect. Honnai rhai nad oedd ei angen ac nad oedd digon o drafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau lleol. Cynhaliwyd adolygiad barnwrol o'r cais cynllunio hyd yn oed. Ond adeiladwyd y chwe chartref ac maent wedi newid bywydau pobl yn aruthrol.  Dywedodd un o'r tenantiaid newydd wrth David ei bod byw gyda'i phlant mewn tŷ roedd yn ei rentu'n breifat yn Nhyndyrn. Pan fyddent yn yr ystafell ymolchi, byddai llygod mawr yn aml yn rhedeg ar hyd y llawr. Nid yw hynny'n dderbyniol!

 

 Mae Broadstone yn enghraifft lle'r oedd llawer o wrthwynebiad i'r prosiect, yn Llanarth ar y llaw arall roedd y cyngor cymuned yn gefnogol iawn.  Bu David a'i ragflaenydd yn cynorthwyo'r cyngor cymuned drwy bob cam o'r broses; yn nodi ac yn ymgynghori ynghylch safleoedd ac yna'n ymgynghori ynghylch cynllun y cartrefi newydd. Mae'r cartrefi hyn wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i'r pentref - pentref heb ddim gwasanaethau, er bod gwasanaeth bws tua hanner milltir o'r pentref. Mae un o'r tenantiaid newydd wedi dechrau grŵp chwarae yn neuadd y pentref gyda chymorth grant gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy. Dyma'r tro cyntaf ers 25 o flynyddoedd i rywun  sefydlu cylch chwarae yn y neuadd. Ond yr hyn sy'n aros yn ei gof yw cyfarfod â chlerc y cyngor cymuned ar noswyl Nadolig yn yr archfarchnad leol. Gofynnodd sut groeso roedd y tenantiaid newydd wedi'i gael.  Dywedodd ei bod yn braf gweld y bws ysgol yn stopio a'r plant yn taflu peli eira. Roedd y pentref yn fyw eto.  Er bod y prosiectau hyn yn wahanol gan mai dim ond un gafodd gefnogaeth gan y gymuned, yr un canlyniad gafwyd yn y ddau bentref, sef tai fforddiadwy i bobl leol sy'n wedi helpu i adfywio'r cymunedau gwledig hyn yn Sir Fynwy.

 

I grynhoi, anogodd y Grŵp Trawsbleidiol i astudio adroddiad ac argymhellion ABC a dod o hyd i ffordd o gyflawni eu nodau. Mae argyfwng tai go iawn yn y wlad hon ac roedd yn gobeithio'n arw y byddai pawb yn ymrwymo i gefnogi'r Ymgyrch Cartrefi i Brydain. Mae cynllunwyr yn allweddol yn y cyswllt hwn. Rhaid cael polisïau ymarferol a hyblyg a rhaid iddynt wrando ar y sector tai a gweithwyr proffesiynol os ydym am gynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael.  Os nad yw polisi'n gweithio, rhaid ei newid neu dderbyn bod yn rhaid gwyro oddi wrtho.  Tirwedd a reolir yw Cymru Wledig ac ni ellir gorbwysleisio'i phwysigrwydd i economi Cymru. A rhaid peidio byth ag anghofio mai bywydau pobl sydd wrth wraidd hyn oll.  Os gallwn ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy o ansawdd da, bydd llai o bwysau ar wasanaethau eraill a bydd Cymru yn lle hapusach ac iachach i fyw ynddo.

 

6.         Diolchodd Joanie i David a chyn iddi ofyn am gwestiynau o'r llawr, pwysleisiodd yr angen i sicrhau dyfodol Cymru wledig drwy warchod treftadaeth llawr gwlad a helpu i ddarparu tai fforddiadwy i bobl leol, a chadarnhaodd amcanion ABC;

 

6.1.1        Mae AB am i'r aelodau gyflawni tri pheth, sef, yn syml iawn:

 

6.1.2        Help i gyplysu'r ddwy broblem ar agenda'r Cynulliad a sicrhau bod y Mesur Treftadaeth a'r Mesur Cynllunio yn cefnogi'r dull hwn o weithredu

6.1.3        Help i sicrhau bod argymhellion ABC, er mor uchelgeisiol ydynt, yn cael eu hystyried o ddifrif

6.1.4        Helpu ABC i ddangos y gall hyn weithio, ac mae hynny'n golygu cymeradwyaeth, ymrwymiad ac, wrth gwrs, cymorth ariannol.

7.         Cwestiynau gan aelodau'r Grŵp Trawsbleidiol.

Fel cenedl fechan pam rydym yn or-gymhlethu materion fe hyn?

 

Teimlai Joanie bod angen cyfathrebu mwy.  Mae bwlch enfawr bob amser rhwng yr hyn y mae pobl yn ei feddwl a realiti. Ni ddylai fod yn anodd, ond mae hi! Gofynnodd Joanie i Llyr pam na allwn gael y maen i'r wal?

 

Ymatebodd Llyr drwy ddweud bod angen i'r Llywodraeth weld bod hyn yn broblem ddifrifol. Dylai pobl lobïo'r llywodraeth, sicrhau cefnogaeth meincwyr cefn a pharhau i drafod y mater gyda Gweinidogion.  Mae angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â'r problemau.

 

O ran tai fforddiadwy gofynnwyd i David sut y byddai ef yn hoffi i ddatblygiadau gael eu rhoi ar waith.

Teimlai David ei bod yn anodd iawn dweud wrth gynllunwyr beth oedd ei angen oni bai eich bod yn gweithio ar lawr gwlad gyda chymunedau lleol.  Pan fyddwch yn gweithio gyda chymunedau lleol mae'n haws mesur yr angen. Mae swyddogion Tai Strategol awdurdodau lleol yn gwybod lle y mae angen gwario'r arian ac maent yn gwybod am y rhestrau aros ac ati

 

Tanlinellodd Helen Fry o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yr angen i gael tystiolaeth i ddatblygu tai fforddiadwy yn y Parc Cenedlaethol.

 

Dywedodd William Powell AC y byddai'n hoffi helpu.

 

Pwysleisiodd Peter Ogden nad yw deddfwriaeth yn gydgysylltiedig ac, felly, mae hynny'n effeithio ar gefn gwlad Cymru. Mae angen i'r Llywodraeth fabwysiadu dull cwmpasog o weithredu yng Nghymru er mwyn cysylltu popeth â'i gilydd. Cefn gwlad sy'n cynnal Cymru.  Mae angen meddwl am strategaethau i adeiladu ar yr holl faterion sy'n effeithio ar gefn gwlad Cymru.  

 

Cytunodd Karen Anthony â Peter. Teimlai bod ddiffyg cydlyniant yng ngwaith Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol.  Fodd bynnag, bydd achosion pan fydd yn anymarferol defnyddio'r adeiladau hyn. 

 

Dywedodd Helen Whitear (un o ymddiriedolwyr ABC) fod hen adeiladau traddodiadol, yn groes i'r farn flaenorol, yn fwy effeithlon o ran defnyddio ynni ac mae cyfle gwych i hyfforddi pobl leol i gynnal yr hen adeiladau hyn yn briodol.

 

Nododd Joanie fod Cymru ar flaen y gad yn eithaf aml o ran rhaglenni cyffrous - pam na allwn ni fod ar flaen y gad yn y cyswllt hwn?

 

Soniodd y Cynghorydd Geraint Hopkins am ei brofiadau yn ei ardal leol, lle collwyd llawer o wasanaethau lleol, gan gynnwys dwy ysgol gynradd.  Roedd yn bryderus hefyd y bydd y gyllideb ar gyfer priffyrdd  yn lleihau ac felly ni fydd ffyrdd lleol yn cael eu cynnal.

 

Trafododd yr Aelodau yr angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r problemau hyn gan y bydd prinder tai fforddiadwy'n datblygu'n broblem enfawr. Gellid cyflwyno swyddi medrus mewn ardaloedd gwledig i adfer yr adeiladau hyn. Gofynnodd Moira Lucas o Gyngor Abertawe a ddylem fod yn cyflogi pobl leol fel crefftwyr. Drwy hyn, gellid creu gwaith a hyfforddiant  i bobl yn eu hardal leol. Gallai'r modd rydym yn hyfforddi cynllunwyr a phenseiri fod yn allweddol.

 

Roedd Mark Isherwood AC yn cofio am adroddiad JRF a gynhyrchwyd yn 2008 ar dai gwledig.  Teimlai bod y mater yn cael mwy o flaenoriaeth wleidyddol erbyn hyn. Dywedodd ei fod yn amser da i dynnu sylw'r pleidiau gwleidyddol at y broblem gan y byddant yn paratoi eu maniffestos ar gyfer 2016.  Mae'r angen i ddarparu tai lleol yn aml yn cael ei gelu gan y ffaith bod pobl yn byw gyda pherthnasau ac ati, ac felly nid yw'r angen i'w weld mor amlwg.

 

 7.1       Gofynnodd Joanie yn uniongyrchol i'r Grŵp Trawsbleidiol am gymorth i ddatblygu’r  negeseuon hyn. Awgrymodd Peter Ogden y byddai’rGrŵp Trawsbleidiol yn datblygu pum neges allweddol ac yna'n eu cyflwyno i’r maes gwleidyddol.  

 

8.         Dyma’r pum neges allweddol:

 

1.                     Cydnabod bod adeiladau brodorol heb eu rhestru yn ased  gwerthfawr iawn o ran treftadaeth a diwylliant ac y gall y gwaith o achub yr etifeddiaeth lawr gwlad hon fod yn gyfle i adeiladau cartrefi a chreu gwaith mewn ardaloedd gwledig. Byddai hyn yn cadw cefn gwlad yn fyw ac yn helpu i wrth-droi’r duedd i bobl symud o ardaloedd gwledig.

 

2.                     Cydnabod bod adeiladau traddodiadol yn perfformio'n llawer gwell yn amgylcheddol (yn enwedig o ran colli gwres drwy’r ffabrig) nag a dybiwyd cynt ac, o’u cynnal a’u cadw’n briodol, byddant yn parhau’n hirach nag adeiladau newydd. Felly, dylai perchnogion pob adeilad traddodiadol gael gwybod / dysgu am y ffordd orau o gynnal a chadw eu heiddo’n effeithiol ac yn gynaliadwy.  Ac  mae angen cynllun hyfforddi gofynnol cynhwysfawr i sicrhau bod gwaith pob adeiladwr yn cyrraedd safon dderbyniol pan fyddant yn gweithio ar adeiladau traddodiadol a rhaid sicrhau eu bod wedi’u cymhwyso i wneud hynny. 

 

3                      Creu cymhellion ariannol (ee drwy drethi neu grantiau) i annog perchnogion adeiladau brodorol adfeiliedig i gynnwys yr adeiladau hyn mewn cynlluniau fel ABC  i’w troi’n dai fforddiadwy.  

 

4.                     Cydnabod bod yn rhaid datrys problemau tai fforddiadwy yng nghefn gwlad drwy ddefnyddio dulliau rheoleiddio a gosod cyfyngiadau gwahanol i’r rhai a ddefnyddir ar gyfer tai fforddiadwy mewn ardaloedd trefol (ee dylid addasu ACG a’r grant tai cymdeithasol etc  at y diben hwnnw)

 

5.                     Adfer rôl hanfodol yr Hwyluswyr Tai Gwledig ym mhob un o ardaloedd gwledig Cymru er mwyn cael gwybod faint o dai fforddiadwy y mae angen eu codi, a mynd i’r afael â’r broblem hon, sy’n aml yn broblem gudd.

 9.        Daeth Llyr Huws Gruffydd â’r cyfarfod i ben gan ddiolch i’r siaradwyr ac i bawb a oedd yn bresennol am eu sylwadau a diolchodd hefyd i Peter Ogden am ei gyfraniad.

 

Daeth y cyfarfod i ben pan ganodd cloch y Cyfarfod Llawn am yr eildro.